Amdanaf

Heledd dwi a ‘dw i’n ddarlunydd o Ynys Môn. 

Mae gennai radd o Brifysgol Caeredin lle wnes i astudio Darlunio. Ers 2020 mae dros 30 o gyplau wedi ymddiried yno fi i greu gwahoddiadau priodas i’w diwrnod arbennig. Ochr arall fy musnes ydi creu cynnyrch Cymraeg - gallwch ddod o hyd i’r rhain ar fy siop ar-lein.

Rwy’n arbenigo mewn caligraffi unigryw a chasgliadau personol sy’n dod a’ch syniadau’n fyw. O’r ymgynghoriad cyntaf i’r casgliad gorffenedig, rydych chi mewn dwylo profiadol a diogel iawn.

Byddaf yn gofalu am yr holl fanylion pwysig, gan ei wneud yn brofiad hawdd a phleserus i chi. Rwy’n dylunio popeth o’r dechrau i’r diwedd a gallwn wneud newidiadau nes bod popeth yn berffaith. Yn ogystal a chreu gwahoddiadau priodas rydw i’n cynnig popeth papur i’r dydd, o drefn gwasanaeth i arwyddion.

Y cam cyntaf ydi sgwrs i drafod eich syniadau a’r eitemau sydd gennych mewn meddwl yna gallaf greu amcan bris cyn i chi benderfynu mynd ymlaen. Mae fy stiwdio yn Park Mount, Llangefni lle mae croeso i chi ddod fewn am gyfarfod os ydych yn lleol, neu gallwn gyfarfod dros Zoom. ‘Dw i’n edrych mlaen i glywed gennych.

Gweithio gyda fi