Tystebau

“Ateb ein briff yn berffaith”

“Ni mor mor falch bo ni wedi dewis Heledd i greu ein gwahoddiadau/deunyddiau priodas. Ers y cyfarfod cyntaf i drafod syniadau, mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda Heledd dros y misoedd dwetha'. Roedd hi wedi ateb ein briff yn berffaith ac o hyd ar ben arall e-bost pan oedd angen creu pethau ychwanegol - doedd dim byd yn ormod o ffws iddi. Gafon ni lwyth o compliments ar y gwahoddiadau a roedd popeth yn edrych yn hyfryd ar y dydd hefyd, o'r cardiau enwau i'r Cynllun Bwrdd. Diolch am bob dim Heledd.”

Siwan - 2022

“Gwahoddiadau priodas perffaith”

“Diolch o waelod calon i ti Heledd am y gwahoddiadau a phob dim arall anhyhoel. Roedd y broses o ddylunio y gwahoddiadau yn union i fy ‘vision’ yn un hawdd gan dy fod yn gwybod yn union beth oeddwn eisiau heb orfod deud - genius! Roedd pob manwl yn berffaith, a’r gofal i bob dim yn glir yn dy waith. Roedd yr ‘extra touches’ fel ordro envelopes, stamps a wax i mi hefyd yn werthfawrogol. Rwyt yn ddylunudd talentog, bendigedig!”

Swyn - 2021

“Diolch o galon”

“Mi oedd hi mor mor hyfryd cyd-weithio efo Heledd. Doeddwn i ddim efo syniad clir o’r hyn o’n i isho gan ‘mod i ddim y person mwyaf creadigol (!) ond mi ddaru Heledd roi syniada i mi tu hwnt i be oeddwn i’n meddwl oedd yn bosib! Roedd ei sylw i’r maylion lleiaf i sicrhau perffeithrwydd a ges i lwyth o bobl yn deud eu bod nhw wrth eu bodd efo’r gwahoddiadau a’r cardiau diolch, a dwi mor ddiolchgar iddi am ei gwaith gwych.”

Sara - 2023

“Amazing throughout the process”

“We were given Heledd’s info by a friend who had seen the page on Instagram, as soon as I seen the designs I knew Heledd was the person I wanted to design our wedding invites. Heledd was so helpful through the process making sure the design was exactly what we wanted, we then decided to get Heledd to design all of our wedding stationary, we are so glad we did! It was faultless and went exactly with our colour scheme / theme :) thank you so much!”

Chloe - 2022