Prisiau

Casgliad lled-bwrpasol

Mae’r prisiau isod yn ganllaw ar gyfer 80 o wahoddiadau, yn cynnwys argraffu a dylunio ar gyfer casgliad lled-bwrpasol. Mae hyn yn golygu addasu un o’r cynlluniau sydd gen i wedi eu gwneud yn barod (newidiadau bach fel lliw/blodau) neu ddylunio casgliad newydd yr ydych yn hapus i mi ei ail-ddefnyddio yn y dyfodol (yn ddibynol ar fy argaeledd a chynllun sydd ddim yn rhy unigryw.) Bydd union bris eich casgliad yn cael ei deilwra i'ch gofynion unigol yn ôl pethau fel nifer y gwahoddiadau / eitemau ac y math o argraffu. Cysylltwch i drefnu galwad Zoom yna gallai gynnig amcanbris unigryw cyn i chi benderfynu mynd ymlaen.

Gwahoddiadau

  • Copr

    £395

    Gwahoddiad (5x7”)
    Amlen premiwm

  • Arian

    £495

    Gwahoddiad (5x7”)
    Tudalen ychwanegol (5x7”)
    RSVP (A6)
    Amlen premiwm

  • Aur

    £795

    Gwahoddiad Letterpress moethus
    Amlen lliw premiwm

    Pris Ychwanegol:
    Amlenni wedi’i leinio; Stamp, Cwyr, Rhuban; Enwau gwesteion ar bob gwahoddiad; Darluniad o’r lleoliad; Papur siap gwahanol; Elfennau unigryw.

I’r Dydd

  • Haearn

    £395

    Trefn Gwasanaeth
    Bwrdd Croeso / Trefn y Dydd (A1)
    Cynllun Eistedd (A1)

  • Efydd

    £525

    Trefn Gwasanaeth
    Bwrdd Croeso / Trefn y Dydd (A1)
    Cynllun Eistedd (A1)
    Cardiau Enwau’r Byrddau
    Place Names

  • Dur

    £645

    Trefn Gwasanaeth
    Bwrdd Croeso / Trefn y Dydd (A1)
    Cynllun Eistedd (A1)
    Cardiau Enwau’r Byrddau
    Place Names
    Bwydlen
    Cardiau Diolch

Casgliad Unigryw

Prisiau yn cychwyn o £1000

Os ydych eisiau gwahoddiadau arbennig ac eich cyllideb ychydig yn uwch yna dyma’r dewis i chi. Ar ôl trafodaeth byddwn yn cydweithio i greu casgliad i’ch union fanyldeb. Byddaf yn eich arwain a’ch cynghori gan ei wneud yn broses hawdd a phleserus i chi. Dyma’r opsiwn perffaith os oes gennych rai syniadau neu eisiau rhywbeth ychydig yn fwy unigryw. Gallwn ychwanegu neu dynnu pethau i gyd-fynd â’ch cyllideb fel yr enghrefftiau a welir uchod. Y cam cyntaf yw cysylltu â mi drwy e-bost a gallwn drefnu galwad Zoom i drafod syniadau a manylion. Os ydych yn lleol i Ynys Môn neu yn bwriadu ymweld, gallwn drefnu cyfarfod yn fy stiwdio yn Llangefni i chi weld samplau gwahoddiadau, papurau ac amlenni. Ar ôl trafod byddaf yn trefnu dyfynbris cyn i chi benderfynu bwrw ymlaen.