Letterpress

Beth yw Letterpress?

Mae Letterpress yn ffordd draddodiadol o argraffu (relief printing), lle mae llythrennau metal neu stamp plastig yn cael ei bwyso mewn i bapur gan adael argraffiad hefo neu heb inc. Mae’n broses sy'n cymryd llawer o amser, egni a chariad. Mae pob darn o bapur yn cael ei drin, ei sgorio, ei fwydo, a'i argraffu, fesul un i greu canlyniadau moethus.

Fy wasg, Beti

Yn y llun gallwch weld fy wasg, Arab Crown Folio o’r 1890au sy’n cael ei chymharu i Rolls Royce - ‘The best jobbing platen ever made’. Gyda hon byddaf yn creu gwahoddiadau hollol unigryw ac arbennig.

Gwahoddiadau unigryw

Efallai eich bod wedi gweld ychydig o enghreifftiau o wahoddiadau hollol wahanol rwyf wedi eu gwneud, fel rhai Gruffydd a Manon isod. Os oes gennych syniad, faswn i wrth fy modd dod a fo’n fyw. Gall wahanol bethau wneud gwahaniaeth mawr, e.e. torri’r papur i siap, ysgrifen Letterpress, Letterpress heb inc, wax seal, cardiau ychwanegol. Bydd mwy o luniau a gwybodaeth i ddilyn yn fuan. Yn y cyfamser gallwch ddod o hyd i fwy o luniau ar Instagram. Cysylltwch heddiw i ddechrau’r sgwrs.