Cwestiynau
Cyffredin
Pryd ddyliwn ni yrru ein gwahoddiadau?
Fel arfer fydd pobl yn gyrru eu gwahoddiadau 3-6 mis cyn y briodas. Does dim rheolau! Bydd rhai cyplau yn hoffi gyrru ‘Save the Date’ cyn y gwahoddiad ond mae rhan fwya’r cyplau sydd wedi gweithio gyda fi wedi mynd yn syth am y gwahoddiad.
Pryd sy’n amser da i gysylltu?
Dydi hi byth yn rhy fuan i gysylltu. Pan fyddwch yn gwybod dyddiad y briodas mae hynny’n adeg da i gysylltu. Peidiwch a phoeni eich bod wedi ei gadael hi yn rhy hwyr - mae werth cysylltu beth bynnaf a gallwn weld beth sy’n bosib. Gallwch ddefnyddio y ffurflen gyswllt neu e-bostio post@heleddowen.co.uk. Gallwn drefnu sgwrs i drafod ymhellach.
Beth fydd yn digwydd yn y sgwrs gyntaf?
Mae’r sgwrs gyntaf yn bwysig i ni drafod eich syniadau yna gallaf roi amcanbris cyn i chi benderfynu mynd ymlaen. Byddwn yn trafod y gwahanol eitemau, niferoedd a steil. Byddai’n help os oes gennych syniad bras o’r nifer o wahoddiadau a pryd y hoffech eu gyrru allan. (Pan yn cyfrif niferoedd, cofiwch un gwahoddiad fesul tŷ, nid un fesul bob person.) Peidiwch a phoeni os nad ydych yn siwr am unrhyw beth ar y pwynt yma – gallaf ddangos y gwahanol opsiynnau a phrisiau i chi. Gallwn ni unai gael galwad dros Zoom neu mae croeso i chi ddod i’r stiwdio yn Llangefni, Ynys Môn os ydych chi’n lleol.
Os modd gweld samplau?
Ar ôl ein sgwrs dros Zoom gallaf yrru samplau wedi’u teilwra i chi os hoffech weld y gwahanol opsiynau cyn penderfynu ar yr un gorau i chi. Os y byddwn yn cyfarfod yn y stiwdio, gallaf ddangos enghreifftiau i chi mewn person.
Beth yw cost gwahoddiadau?
Gallwch weld fy mhrisiau bras ar y dudalen Prisiau. Mae gwahanol bethau yn gallu newid y gost fel y nifer o wahoddiadau, dull argraffu, eitemau ychwanegol ayyb. Gallaf roi amcanbris penodol i chi ar ôl y cyfarfod cyntaf, yna gallwch benderfynu os ydych yn hapus mynd ymlaen.
Mae gennym budget bach, a fydd hyn yn gweithio?
Gallwch weld fy mhrisiau bras ar y dudalen Prisiau. Mae ambell ffordd o leihau pris gwahoddiadau, fel argraffu’r gwahoddiadau dydd a chael gwahoddiadau nos digidol. Wrth drafod, byddaf yn dangos y gwahanol opsiynnau a phrisiau i chi fel eich bod yn gallu penderfynu pa eitemau i’w blaenoriaethu.
Sut fyddwn ni’n talu?
Ar ôl i chi gadarnhau eich bod yn hapus gyda’r amcanbris, does ddim angen talu deposit – byddai’n anfonebu’n llawn pan fydd y gwaith dylunio yn cychwyn. Bydd un anfoneb am y gwahoddiadau ac ail anfoneb am yr eitemau i’r dydd. Gallwn drefnu cynllun talu os ydi hyn yn gweithio’n well i chi – gofynnwch yn ein cyfarfod cyntaf os ydi hyn yn rhywbeth y hoffech ei drafod.
Ydi’n hi’n bosib cael eitemau dwyieithog?
Wrth gwrs! Gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, ‘dw i wrth fy modd i allu cynnig y gwasanaeth yma. Gallwn naill ai gael eitemau dwyieithog neu Cymraeg a Saesneg ar wahân. Cyn dechrau dylunio byddaf yn gofyn i chi yrru dogfen Word atai gyda’r geirio ar gyfer yr eitemau. Dyma’r adeg i ofyn ffafr gan eich ffrind y cyfieithydd! Gan nad oes gen i radd Cymraeg, mae fyny i chi wirio’r iaith cyn i ni fynd ati i ddylunio ond byddaf bob tro yn darllen dros bopeth i wneud yn siwr eu bod yn edrych yn iawn i mi. Byddaf yn gofyn i chi wirio popeth un tro olaf cyn i ni fynd ati i argraffu.
Ydi’n bosib cael gwahoddiadau hollol unigryw?
Os ydych yn edrych am gasgliad hollol arbennig i chi gallwn weithio gyda’n gilydd i ddod a’ch syniad yn fyw. Bydd y pris yn uwch i adlewyrchu’r gwaith ac amser ychwanegol. Ar ôl trafodaeth byddaf yn creu dyluniad yn union fel sydd gennych yn eich meddwl. Dyma opsiwn perffaith os oes gennych chi Pinterest board neu scrap book yn llawn syniadau am eich gwahoddiadau perffaith, neu os ydych eisiau casgliad hollol arbennig i chi fel cwpl. Os nad oes gennych syniad penodol, gallaf gynnig syniadau i gyd-fynd gyda thema eich priodas. Os hoffech glywed mwy, alla i gynnig amcanbris arbennig i chi gan ddibynu ar y nifer o eitemau a’r gost argraffu / creu. Y cam cyntaf ydi cysylltu gyda mi a gallwn drefnu galwad Zoom i drafod syniadau a manylion.
Sut allwn ni efelychu ein gwahoddiadau?
Mae’n sawl ffordd i efelychu eich gwahoddiadau. Dyma ychydig o enghreifftiau -
Wax Seal / Stamp, Llawes Velwm, Papur siap gwahanol, Rhuban, Amlenni wedi’u leinio, Enwau’r gwesteion ar bob gwahoddiad.
Mae gwahanol ddulliau argraffu yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr - argraffu gydag inc gwyn, ffoil a Letterpress. Yn ogystal a’r dull argraffu, mae’r papur yn bwysig iawn. Gall fod yn bapur gyda hadau ynddo, neu bapur liw gwahanol i wyn. Mae’r manylion bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Beth yw Letterpress?
Mae Letterpress yn ffordd draddodiadol o argraffu (relief printing), lle mae dyluniad yn cael ei bwyso mewn i bapur trwchus gan adael argraffiad hefo neu heb inc. Byddaf yn defnyddio gwasg ‘Arab Crown Folio’ ar gyfer argraffu gwahoddiadau priodas yn fy stiwdio yn Llangefni. Gan fy mod yn dylunio ac argraffu popeth fy hun, mae’r rhyddid gennym i greu gwahoddiadau hollol arbennig ac unigryw i chi. Gallwch ddysgu mwy am Letterpress yma.